Rhybudd melyn am law i rai o siroedd y de

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i rannau o dde Cymru ar gyfer dydd Sadwrn.
Bydd y rhybudd yn dod i rym am 00:00 fore Sadwrn ac mae'n para hyd at 09:00.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar 14 sir yng Nghymru.
Mae disgwyl cyfnodau trwm o law trwy gydol bore Sadwrn, gyda rhai ardaloedd yn gweld 20-30mm o law o fewn chwech i naw awr.
Gyda'r tir eisoes yn wlyb, fe all y glaw trwm achosi llifogydd mewn mannau gan achosi difrod i rai cartrefi a busnesau.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio y gallai'r glaw effeithio ar amodau gyrru ac achosi oedi i drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-Nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen