Tymheredd Cymru ar ei uchaf erioed yn 2022

Roedd tymheredd Cymru ar ei uchaf erioed yn 2022, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Cafodd tymheredd cyfartalog o 10.23 gradd Celsius ei gofnodi yng Nghymru'r llynedd - sydd yn uwch na'r record flaenorol sef 10.09 yn 2014.
Fe gododd tymheredd cyfartalog y Deyrnas Unedig am y flwyddyn yn uwch na 10 gradd Celsius am y tro cyntaf erioed i 10.03 gradd.
Cafodd y tymheredd uchaf ar gofnod yng Nghymru ei gofnodi ym Mhenarlâg ar 18 Gorffennaf, gyda 37.1 gradd yn cael ei gofnodi yno.
Yn ystod y deuddydd o dywydd poeth ar 18 a 19 Mehefin, cafodd y tymheredd uchaf erioed ei gofnodi yn y DU.
Cododd y tymheredd i 40.3 gradd Celsius yn Coningsby yn Swydd Lincoln, 2.6 gradd yn uwch o gymharu â'r record flaenorol.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd mai newid hinsawdd oedd yn gyfrifol am y newid.
"Dangosodd ein canlyniadau y byddai cofnodi 10°C mewn hinsawdd naturiol yn digwydd tua unwaith bob 500 mlynedd, ond yn ein hinsawdd bresennol gallai fod mor aml ag unwaith bob tair i bedair blynedd,” meddai Dr Nikos Christidis.
"Fe wnaethon ni hefyd ddefnyddio modelau hinsawdd i ragamcanu pa mor aml y gallai tymheredd o’r fath gael ei gofnodi yn y dyfodol.
"Erbyn diwedd y ganrif gallai tymheredd cyfartalog o 10°C ddigwydd yn y DU bron bob blwyddyn.”