Deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn 'ymosodiad ar yr hawl i streicio' meddai AS o Gymru
Mae Aelod Senedd o Gymru sy'n rhan o gabinet yr wrthblaid wedi dweud na fydd Llafur yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth newydd ar undebau.
Dywedodd Nick Thomas-Symonds, AS Torfaen ac Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol yr Wrthblaid, bod y ddeddfwriaeth yn "ymosodiad ar yr hawl i streicio".
Byddai'r ddeddfwriaeth yn golygu fod yn rhaid i weithwyr iechyd, gwarchodwyr ffiniau Prydain a'r rheilffyrdd weithio isafswm o amser er mwyn gallu streicio.
Byddai hefyd yn golygu fod gan benaethiaid yr hawl i erlyn undebau a'u haelodau sydd ddim yn cyflawni'r isafswm amser.
Bydd rhagor o streiciau yn cael eu cynnal ddydd Iau, gydag aelodau undeb Aslef, sydd yn cynrychioli gweithwyr trenau mewn 15 o gwmnïau yn cynnal streic 24 awr a bydd streic arholwyr gyrru’r DVSA yn parhau yn Ne Cymru, Llundain, De Ddwyrain a De Orllewin Lloegr.
'Camgymeriad'
Wrth siarad ar raglen Newsnight nos Fercher, Dywedodd Nick Thomas-Symonds y byddai deddfwriaeth y llywodraeth yn "gwbl aneffeithiol".
"Drwy'r cyfnod yma lle'r ydym ni wedi gweld streiciau, mae'r llywodraeth yma naill ai wedi gwneud dim neu wedi bod yn gwneud y sefyllfa yn waeth.
"A dyma yn union beth fyddai'r ddeddfwriaeth yma yn gwneud. Mae'n gamgymeriad gan y llywodraeth."
Bydd Arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer yn gwneud araith ddydd Iau am ei amcanion ar gyfer y flwyddyn gan addo "degawd o adnewyddu cenedlaethol."