Achos trywanu Birmingham: Dau i sefyll prawf ym mis Gorffennaf

Mae dau berson sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio pêl-droediwr mewn clwb nos yn Birmingham ar Ŵyl San Steffan wedi cael gwybod y byddan nhw’n sefyll eu prawf ym mis Gorffennaf.
Ymddangosodd Kami Carpenter, 21, a Remy Gordon, 22, o flaen Llys y Goron ddydd Mercher.
Mae'r ddau sy'n dod o Birmingham, wedi eu cyhuddo o lofruddio Cody Fisher, ac yn wynebu cyhuddiad arall o ymladd.
Cafodd Mr Fisher ei drywanu ar lawr dawnsio clwb nos Crane yn Digbeth, Birmingham.
Mewn gwrandawiad a barodd saith munud, siaradodd y diffynyddion i gadarnhau eu manylion personol.
Ni ofynnwyd i Carpenter, heb gyfeiriad sefydlog, na Gordon, o Cofton Park Drive, Birmingham, gyflwyno unrhyw ble i'r cyhuddiad o lofruddiaeth.
Fe wnaeth y ddau bledio'n ddieuog i'r cyhuddiad o ymladd.
Gorchmynnodd y Barnwr Paul Farrer KC i'r achos ddechrau ar Orffennaf 3 a phenderfynu ar wrandawiad paratoi ple ac achos ar gyfer Mawrth 17.