Ysgrifennydd Diwylliant y DU yn argymell peidio preifateiddio Channel 4

Mae Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Michelle Donelan, wedi ysgrifennu at Rishi Sunak yn argymell peidio preifateiddio Channel 4.
Mewn llythyr i'r prif weinidog, dywedodd Ms Donelan fod yna "ffyrdd gwell o sicrhau cynaladwyedd Channel 4" yn hytrach na phreifateiddio.
Roedd ei rhagflaenydd, Nadine Dorries, wedi bwriadu gwerthu'r sianel, sydd ar hyn o bryd yn cael ei ariannu gan gyllid gyhoeddus.
Ychwanegodd Ms Donelan y byddai preifateiddio yn gallu amharu ar yr economi "ar adeg pan mai tyfiant a sefydlogrwydd economaidd yw ein blaenoriaeth".
Cafodd Channel 4 ei chreu ym 1982 gan lywodraeth Geidwadol y Farwnes Margaret Thatcher, ac mae'n cael ei hariannu yn gyfan gwbl drwy hysbysebion.
Dywedodd Ms Donelan ei bod yn bwriadu cyhoeddi mesurau newydd er mwyn "helpu i fynd i'r afael â" yr heriau mae'r sianel yn ei wynebu yn sgil "y sector cyfryngau sy'n parhau i esblygu".
Er hyn, dywedodd ei rhagflaenydd yn y swydd fod "tair blynedd o lywodraeth Geidwadol flaengar wedi diflannu'n llwyr."
Three years of a progressive Tory government being washed down the drain. Levelling up, dumped. Social care reform, dumped. Keeping young and vulnerable people safe online, watered down. A bonfire of EU leg, not happening. Sale of C4 giving back £2b reversed. Replaced with what?
— Nadine Dorries (@NadineDorries) January 4, 2023