Un person wedi marw ac 20 wedi eu hanafu mewn ymosodiad ar Kyiv
Un person wedi marw ac 20 wedi eu hanafu mewn ymosodiad ar Kyiv

Yn Wcráin, mae swyddogion yn dweud bod ton o daflegrau gan Rwsia wedi taro dinasoedd yn y wlad.
Dywedodd maer Kyiv bod un person wedi marw ac 20 wedi eu hanafu yno.
Cafodd 14 person eu cludo i'r ysbyty tra bo'r chwech arall wedi derbyn triniaeth yn y fan a'r lle.
Dywedodd maer y brifddinas, Vitali Klitschko, fod adeiladau dwy ysgol yn rhanbarth Solomyansk wedi eu difrodi "i raddau amrywiol o ddifrod".
Mae Llywydd Wcráin, Volodomyr Zelensky hefyd wedi dweud bod "nifer" o ymosodiadau gan daflegrau ar Ddydd Calan.
"Taflegrau yn erbyn pobl," meddai. "Nid yw'r sawl sy'n gyfrifol yn ddynol, y gwnânt golli. Rydym yn gwybod hynny."