Gobaith Mark Drakeford am 'heddwch' ar ddechrau 2023
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn gobeithio am heddwch yn 2023.
Yn ei anerchiad blwyddyn newydd, fe gyfeiriodd at y cymorth sydd wedi ei ddangos gan bobl Cymru i bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn sgil rhyfel Rwsia ar Wcráin.
"Mae Blwyddyn Newydd yn ddechrau newydd ac rwy’n siŵr bod gan bawb eu gobeithion a’u dymuniadau am y flwyddyn nesaf," meddai.
"Dewch inni obeithio am heddwch yn 2023, ac amser hapusach i ddod."
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi dweud y dylai'r Llywodraeth Lafur flaenoriaethu mynd i'r afael â GIG Cymru fel adduned Blwyddyn Newydd.
Ychwanegodd y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i ddal y llywodraeth i gyfrif yn 2023.
Dywedodd mai'r nod gyda phandemig Covid-19 "yn y gorffennol" yw "blaenoriaethu darparu ar gyfer pobl Cymru".