Newyddion S4C

Andrew Tate - Channel 5/Endemol Shine

Arestio'r dylanwadwr dadleuol Andrew Tate yn Romania

NS4C 30/12/2022

Mae'r dylanwadwr dadleuol, Andrew Tate, wedi cael ei arestio yn Romania ar amheuaeth o fasnachu pobl, treisio a ffurfio grŵp troseddol wedi'i drefnu. 

Cafodd Mr Tate, 36, a'i frawd, Tristan, eu harestio nos Iau ac maen nhw'n cael eu cadw yn y ddalfa am 24 awr gyda dau berson o Romania.

Mae'r brodyr wedi wynebu ymchwiliad troseddol ers mis Ebrill.

Daeth Andrew Tate yn enwog yn 2016 ar ôl ymddangos ar gyfres teledu Big Brother lle bu'n rhaid iddo adael yn sgil honiadau o fideo a oedd yn ei ddangos yn ymosod ar ddynes.  

Cafodd ei wahardd rhag defnyddio Twitter wedi iddo ddweud y dylai merched gymryd cyfrifoldeb am ymosodiad rhywiol, ond ers hynny, mae yn ôl ar y platfform. 

Ddydd Mercher, roedd yn rhan o ddadl ar-lein gyda'r ymgyrchydd hinsawdd, Greta Thunberg. 

Symudodd i Romania bum mlynedd yn ôl.

Llun: Channel 5/Endemol Shine

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.