Llywodraeth y DU: 'Adolygu cynlluniau' i orfodi profion Covid-19 ar ymwelwyr o China

Mae llywodraeth y DU yn adolygu a ddylid cyflwyno cyfyngiadau Covid-19 ar ymwelwyr o China, meddai’r ysgrifennydd amddiffyn.
Dywedodd Ben Wallace y byddai'r Adran Drafnidiaeth yn cymryd cyngor meddygol ac yn siarad â'r Adran Iechyd.
Yn gynharach, fe wnaeth cyn-weinidog iechyd y llywodraeth annog ystyried profi ymwelwyr o China am Covid-19.
Mae nifer o wledydd yn cyflwyno profion gorfodol mewn ymateb i gynnydd mewn coronafeirws yn China.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai’r llywodraeth yn ystyried cyfyngiadau, dywedodd Mr Wallace: “Mae’r llywodraeth yn edrych ar hynny, mae’n cael ei adolygu, fe wnaethon ni sylwi’n amlwg ar yr hyn y mae’r Unol Daleithiau wedi’i wneud ac mae India a’r Eidal wedi edrych arno, rwy’n credu.
“Rydyn ni’n parhau i adolygu drwy’r amser, yn amlwg, fygythiadau iechyd i’r DU, ble bynnag maen nhw.”