Newyddion S4C

Elle Edwards

'Dylai'r rhai sy'n gyfriol am saethu dynes yn farw yn Lerpwl dreulio pob Nadolig yn y carchar'

NS4C 28/12/2022

Dylai'r sawl sy'n gyfrifol am saethu dynes yn farw yn Lerpwl ar Noswyl Nadolig dreulio 'pob Nadolig yn y carchar', yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi. 

Cafodd Elle Edwards, 26, ei saethu yn farw mewn tafarn yn Wallasey ar 24 Rhagfyr. 

Dywedodd yr heddlu ddydd Mawrth fod dyn 30 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio yn ogystal â dynes 19 oed ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio. 

Fe wnaeth Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi, Serena Kennedy, addo y byddai'r llu yn gwneud "popeth o fewn ei allu i ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol am lofruddiaeth Elle.

"Roedd Elle yn gwneud yr hyn y dylai unrhyw aelod o’r gymuned allu ei wneud ar Noswyl Nadolig sef mwynhau ei hun gyda'i ffrindiau a'i chwaer a mwynhau'r dathliadau."

Ychwanegodd y dylai "unrhyw un sy'n gyfrifol am yr ymosodiad gwn yma dreulio pob Nadolig yn y carchar."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.