Newyddion S4C

85 o fannau dŵr ymdrochi yng Nghymru yn cyrraedd safon 'rhagorol'

nofio dwr agored

Mae 85 o'r 106 mannau nofio dŵr oer yng Nghymru wedi cyrraedd safon 'Rhagorol' gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Wedi’u categoreiddio naill ai’n ‘Rhagorol’, ‘Da’, ‘Digonol’ neu ‘Gwael’, llwyddodd 85 o’r 106 o ddyfroedd ymdrochi aseswyd ledled Cymru i gyflawni’r radd orau. 

Mae hynny’n golygu y gall pob un o’r 22 o draethau sydd wedi ennill gwobr y Faner Las gyflwyno cais i gadw eu statws ar gyfer tymor ymdrochi 2023.

Ymysg y mannau sydd wedi cyrraedd y safon 'Rhagorol' mae traeth Penarth, traeth Bae Caswell yn Abertawe a Llyn Padarn.

Mae Dawnstalkers yn grŵp nofio dŵr oer sydd yn nofio ym Mhenarth. Mae mwy na 100 o aelodau, ac yn ôl cyd-sylfaenydd y grŵp, Grant Zehtmayer, mae nifer yn elwa o gymryd rhan.

"Mae aelodau ein cymuned ryfeddol yn hynod gefnogol i’w gilydd, ac mae hynny ynddo’i hun yn cael effaith bositif fawr ar ein hiechyd meddwl.

"Mae’r serotonin a’r dopamin sy’n cael eu cynhyrchu wrth nofio mewn dŵr oer yn rhoi hwb mawr i’ch hwyliau. Allwch chi feddwl am ddechreuad gwell i’ch diwrnod na chael ergyd hapusrwydd o’r fath?"

Er mwyn penderfynu ar ansawdd y dŵr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn casglu a dadansoddi samplau dŵr rhwng mis Mai a mis Medi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai eu gobaith yw cefnogi’r twf sylweddol ym mhoblogrwydd nofio mewn dŵr oer, sy’n sicr yn fuddiol i iechyd meddwl a chorfforol pobl.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: "Rydyn ni eisiau dynodi mwy o ddyfroedd yng Nghymru, er enghraifft llynnoedd a chronfeydd dŵr, yn ddyfroedd ymdrochi, ac annog pawb o bob siâp, maint a gallu i roi eu dillad nofio amdanynt a mentro i ddyfroedd ffraw Cymru.

"Byddwn ni’n parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol gan ein bod yn credu bod yr ymdrech yn werth ei gwneud. Gadewch inni sicrhau bod Cymru ar y brig o ran nofio gwyllt.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.