Matt Hancock yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ar ôl I'm a Celebrity
Mae Matt Hancock wedi dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin am y tro cyntaf ers iddo dreulio cyfnod ar I'm A Celebrity...Get Me Out Of Here!
Roedd cyn-ysgrifennydd iechyd Lloegr yn wen o glust i glust pan dynnwyd llun ohono'n cyrraedd San Steffan ddydd Gwener yn dilyn ei amser yn byw yn y jwngl yn Awstralia.
Gwnaeth Mr Hancock ei ymddangosiad cyntaf yn siambr Tŷ’r Cyffredin, lle mae disgwyl iddo ddadlau ei Fil Sgrinio Dyslecsia a Hyfforddi Athrawon yn ddiweddarach.
Bydd y Bil, os caiff ei basio yn cyflwyno diwygiadau i'r system addysg yn Lloegr.
Mewn fideo ar ei dudalen Instagram ddydd Gwener, dywedodd Mr Hancock: "Rydw i 'nôl yn y swyddfa yn San Steffan heddiw wedi fy niwrnod yn yr etholaeth ddoe."