Newyddion S4C

Vaughan Gething: Sylwadau hiliol honedig aelod o'r aelwyd frenhinol 'yn fawr o syndod'

02/12/2022
Vaughan Gething

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi dweud nad oedd sylwadau hiliol honedig gan aelod o'r aelwyd frenhinol "yn fawr o syndod" iddo.

Roedd Mr Gething yn siarad ar raglen Question Time ar BBC One oedd yn cael ei ddarlledu o Aberystwyth nos Iau.

Daw ei sylwadau ar ôl i'r Foneddiges Susan Hussey orfod ymddiswyddo o'i rôl yn yr aelwyd frenhinol ac ymddiheuro ar ôl iddi gwestiynu pennaeth elusen sawl tro "o ble roedd hi'n dod".

Roedd Ngozi Fulani, sy'n ymgyrchydd cam-drin domestig du blaenllaw a gafodd ei geni ym Mhrydain, yn mynychu digwyddiad ym Mhalas Buckingham.

"Mae'n sgwrs y bydd nifer o bobl fel fi a Shavanah yn gyfarwydd â hi," meddai Mr Gething. 

"Dydy pobl ddim eisiau derbyn eich bod chi wir yn Brydeinig ac mae'n rhaid eich bod o rywle arall. 

"I ddweud y gwir ces i fy ngeni yn Zambia, roedd fy nhad wedi ei eni yn ne Cymru, mae fy mam o Zambia a 'dych chi yn cael eich gofyn ar wahanol adegau "O ble ydych chi mewn gwirionedd?"  Beth maen nhw wir yn dweud 'Dwi ddim yn credu dy fod di'n un ohonom ni' a dyna'r broblem."

Ychwanegodd Vaughan Gething, sydd wedi gwasanaethu fel Gweinidog yr Economi ers 2021 ar ôl cael ei symud o'i rôl fel Gweinidog Iechyd ei bod yn broblem ehangach.

"Dyw e ddim ond yn un person yr aelwyd frenhinol," meddai.

"Mae 'na bobl fel hynny o fewn cymdeithas felly yn hytrach na dweud mae un person yn yr aelwyd frenhinol, mae'n rhaid bod eraill.  I ddweud y gwir, mae hwn yn sialens sy'n bodoli yn ein gwlad.  Mae'n rhan o'r rheswm pam dwi'n falch o fod yn rhan o lywodraeth sydd am weld Cymru gwrth-hiliaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.