Newyddion S4C

Glastonbury 2023: Elton John i arwain yn ei berfformiad olaf y DU

02/12/2022
Elton John/YouTube

Bydd y canwr Syr Elton John yn arwain Gŵyl Glastonbury yr haf nesaf, dyma fydd ei berfformiad olaf erioed yn y Deyrnas Unedig ar ei daith ffarwel.

Bydd y canwr yn perfformio ar Lwyfan y Pyramid ar ddydd Sul, 25 Mehefin, ac mae wedi addo ffarwel ysblennydd.

“Does dim ffordd fwy addas i ffarwelio â’m cefnogwyr Prydeinig,” meddai mewn datganiad yn cyhoeddi’r sioe.

"Alla i ddim aros i gofleidio ysbryd yr ŵyl fwyaf yn y byd.  Mae'n mynd i fod yn anhygoel o emosiynol."

Daw’r sioe fwy na phum mlynedd ar ôl i Syr Elton gyhoeddi ei daith 350-dyddiad Farewell Yellow Brick Road.

Yn wreiddiol roedd y daith i fod i ddod i ben yn 2021, gan roi mwy o amser i’r canwr 75 oed dreulio gyda’i deulu, ond bu’n rhaid aildrefnu dyddiadau oherwydd y pandemig ac anaf i’w glun. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.