Newyddion S4C

Teyrnged rhieni i ferch o Benarth fu farw o glefyd prin Strep A

02/12/2022
Hanna Roap

Mae rhieni plentyn fu farw ar ôl cael ei heintio gyda'r clefyd prin, Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS), neu Strep A, wedi rhoi teyrnged iddi.

Roedd Hanna Roap yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Victoria ym Mhenarth - ac mae hi'n un o chwech o blant sydd wedi marw o ganlyniad i Strep A yn y DU yn ddiweddar.

Mae teulu Hanna wedi dweud bod eu calonnau wedi torri yn dilyn ei marwolaeth:

"Mae ein calonnau wedi cael eu torri i filiwn o ddarnau. Ein hunig flaenoriaeth yw lles chwaer wyth oed Hanna a'i ffrind gorau.

"Diolch i bawb am eich cefnogaeth anferthol. Diolch i chi am yr holl flodau, cardiau a chyfraniadau. Mae eich cyfeillgarwch yn ein hatgoffa bod da ymysg trasiedi dwys."

Mae'r teulu wedi derbyn dros £2,000 mewn cyfraniadau ar gasgliad ar-lein, gyda'r holl arian er cof am Hanna yn mynd i elusen.

Wythnos diwethaf bu farw plentyn chwech oed yn dilyn achos o’r haint bacteriol mewn ysgol yn Surrey. Mae pedwar plentyn wedi marw o'r haint erbyn hyn.

Cafodd y farwolaeth ym Mhenarth ei chadarnhau gan ymgynghorydd rheoli clefydau trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Ardiana Gjini, ddydd Iau.

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod i gysylltiad â'r afiechyd yn aros yn iach ac yn rhydd o symptomau neu'n datblygu dolur gwddf ysgafn.

Dywedodd Dr Gjini fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda'r ysgol i godi ymwybyddiaeth am y clefyd, gan awgrymu bod pobl yn ymgyfarwyddo gyda'r symptomau sy’n cynnwys; twymyn, dolur gwddf, poenau cyhyrau difrifol a chochni ar safle clwyf.

“Rydym yn cynnig ein cydymdeimlad dwysaf i’r teulu, ffrindiau a phawb yr effeithiwyd arnynt,” meddai’r meddyg.

Mae’r clefyd yn cael ei achosi pan mae bacteria yn mynd i mewn i rannau o'r corff lle nad ydynt i'w cael fel arfer, fel y gwaed, y cyhyr neu'r ysgyfaint.

Gall ddigwydd os yw’r bacteria’n mynd heibio i amddiffynfeydd person, megis trwy glwyf agored neu pan fydd system imiwnedd person wedi gwanhau.

Mae rhieni yn cael eu hatgoffa i ystyried brechlyn ffliw i'w plant lle bo'n briodol.  Dylai'r rhai sydd â'r symptomau ffonio 111 ar unwaith.

Llun: Gofundme

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.