Bron i hanner y boblogaeth 'i wario llai y Nadolig hwn'
Mae ffigurau diweddar yn dangos bod bron i hanner poblogaeth y Deyrnas Unedig yn cynllunio i dorri 'nôl ar eu gwariant Nadolig eleni.
Daw hyn wrth i'r argyfwng costau byw gael effaith fawr ar bobl, gyda dros 2.2 miliwn o dai ar draws Prydain yn derbyn taliadau gan Lywodraeth y DU i'w cynorthwyo gyda biliau.
Mae ymchwil gan Which? wedi darganfod bod tua 46% o bobl yn cynllunio i dorri 'nôl ar eu gwariant oherwydd yr argyfwng costau byw, gyda 41% yn cynllunio i brynu llai o anrhegion a 30% yn dweud y byddan nhw'n prynu bwyd a diod rhatach.
Mae'r 8% sydd yn dweud y byddant yn gwario mwy wedi dweud bod hyn oherwydd cynnydd mewn prisiau nwyddau.
Dywedodd Which? bod nifer y bobl sydd yn torri 'nôl ar wariant eleni yn gynnydd sylweddol ar ffigyrau'r llynedd.
Mae cyfarwyddwr polisi ac eiriolaeth Which?, Rocio Concha yn galw ar fusnesau i wneud pob dim y gallant i helpu cwsmeriaid trwy'r cyfnod anodd hwn.
"Gyda phrisiau i barhau i godi yn 2023, mae Which? yn galw ar fusnesau i wneud pob dim y gallant," meddai.
"Tra bod ymyrraeth lywodraethol yn angenrheidiol, rydym hefyd yn credu bod busnesau gwasanaethau hanfodol yn gallu gwneud mwy i helpu, a dylen nhw wneud hynny.
"Wrth i'r Nadolig agosáu, mae archfarchnadoedd yn enwedig yn gallu chwarae rhan i helpu cwsmeriaid trwy'r misoedd i ddod.
"Mae angen i nwyddau iachus ac angenrheidiol fod ar gael am brisiau fforddiadwy ar draws siopau, a dylai archfarchnadoedd sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cymharu prisiau er mwyn cael y pris gorau posib."