Newyddion S4C

Mesurau newydd i ddiogelu rhag ffliw adar yn dod i rym

Ieir / Dofednod

Mae mesurau newydd i ddiogelu rhag ffliw adar yn dod i rym yng Nghymru ddydd Gwener.

Yn ôl y llywodraeth, mae'r dystiolaeth yn awgrymu y bydd risg y clefyd yng Nghymru yn cynyddu dros fisoedd y gaeaf. 

Bydd y mesurau cadw dan do a bioddiogelwch gorfodol newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer dofednod ac adar caeth.

Mae mesurau tebyg eisoes wedi bodoli yn Lloegr ers rhai wythnosau ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r oedi.

Maen nhw'n dweud nad yw'r feirws, sydd wedi cael effaith sylweddol ar y sector amaeth, yn "parchu ffiniau".

Nid oedd dofednod yn rhan o'r Ffair Aeaf a gafodd ei chynnal yn gynharach yn yr wythnos yn sgil y ffliw.

Mae'r mesurau newydd yn ofyniad cyfreithiol i bawb sydd yng ngofal adar i'w cadw dan do neu wedi’u gwahanu mewn ffordd arall oddi wrth adar gwyllt.

Yn ogystal, bydd rhaid i bob ceidwad adolygu'r mesurau bioddiogelwch ar y safle lle mae'r adar yn cael eu cadw a gweithredu ar hynny.

Pwrpas y mesur yw cadw’r feirws rhag mynd i siediau’r adar, gan fod y feirws yn gallu achosi adar i farw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.