Ta-ta Qatar: Carfan Cymru yn hedfan adref
Ta-ta Qatar: Carfan Cymru yn hedfan adref
Yn dilyn ymgyrch aflwyddiannus yng Nghwpan y Byd, bydd carfan Cymru yn dychwelyd o Qatar ddydd Iau.
Ychydig dros bythefnos yn ôl fe wnaeth Rob Page a'i garfan ddechrau ar eu taith i Qatar, a gobeithion y genedl gyfan yn eu dilyn.
Ond roedd perfformiadau gwael wedi arwain at Gymru yn cael gêm gyfartal gyda'r UDA a cholli i Iran a Lloegr.
Mae nifer o gwestiynau ynghylch chwaraewyr hŷn y garfan nawr bod Cymru allan o Gwpan y Byd, yn enwedig Gareth Bale ac Aaron Ramsey.
Ond dywedodd Bale yn dilyn y gêm nos Fawrth y bydd yn parhau i chwarae i Gymru, ac mae disgwyl i Ramsey barhau i wisgo'r crys coch yn y dyfodol agos hefyd.
Bydd ffocws Cymru nawr yn troi at gemau rhagbrofol EWRO 2024, gyda'r gêm gyntaf yn erbyn Croatia ar 25 Mawrth 2023.