Newyddion S4C

Galwadau am well hyfforddiant i weithwyr prifysgol sy'n delio â myfyrwyr bregus

30/11/2022

Galwadau am well hyfforddiant i weithwyr prifysgol sy'n delio â myfyrwyr bregus

Mae niferoedd cynyddol o fyfyrwyr yn dioddef problemau iechyd meddwl - ac mae angen gwneud mwy i hyfforddi gweithwyr prifysgol sydd yn eu cefnogi.

Yn ôl undeb Unsain, sydd yn cynrychioli staff sydd yn cynorthwyo myfyrwyr, mae gweithwyr yn aml yn gorfod delio gyda myfyrwyr bregus, gan gynnwys rhai sydd yn hunan-niweidio neu yn ystyried lladd eu hunain.

Yn ôl holiadur o dros 12,000 o fyfyrwyr drwy Brydain a gyhoeddwyd ym mis Hydref, roedd 81% yn dweud eu bod nhw wedi dioddef problemau iechyd meddwl.

Roedd diffiniad y cwmni oedd yn gyfrifol am yr arolwg yn cynnwys unrhyw un oedd wedi profi symptomau iechyd meddwl yn y 12 mis diwethaf, wedi profi teimladau o hunan-laddiad, wedi profi trafferthion iechyd meddwl yn y gorffennol neu yn profi problemau iechyd meddwl ar hyn o bryd.

'Teimlo'n rili, rili isel'

Mae Tom Kemp o Bontypridd yn un sydd wedi profi anhwylderau iechyd meddwl.

Mewn cyfweliad a Newyddion S4C, esboniodd iddo sylweddoli bod ganddo broblemau iechyd meddwl tra yn ei ail flwyddyn yn astudio ar gyfer gradd mewn daearyddiaeth.

"Ro'n i'n mynd adre a jesd yn teimlo'n isel, ddim mo'yn neud dim byd, mynd syth i'r gwely, ddim mo'yn bwyta," meddai.

"Fi'n berson rili proactive, fi'n lico neud pethau.  O'n i jesd yn teimlo bod dim egni 'da fi, o'n i ddim yn diddori mewn pethau sydd fel arfer yn diddori fi.  Jesd teimlo'n rili, rili isel yn fy hun.

"Es i at y doctor ac yn wreiddiol, roedd oedi hir gyda'r doctor.  Nes i aros am chwe mis yn wreiddiol.  Wedyn ges i apwyntiad ar ôl apwyntiad ar ôl apwyntiad.

"Hanner ffordd drwy fy nhrydedd flwyddyn, nes i gael diagnosis o iselder, OCD a cyclothymia."

Yn ôl undeb Unsain, mae profiadau fel y rhain yn dod yn fwyfwy cyffredin - a rhai myfyrwyr yn dioddef yn enbyd gyda'u hiechyd meddwl.

Mae Katie Hall yn aelod o'r undeb sydd yn rheoli preswylfeydd myfyrwyr ers bron i ugain mlynedd ac yn dweud bod problemau iechyd meddwl ymysg y bobl ifanc wedi tyfu'n aruthrol yn y cyfnod yna.

"Ry'n ni'n gweld myfyrwyr sydd yn byw gyda gorbryder, panic attacks, hunan-niweidio a hyd yn oed hunanladdiadau," meddai. 

Mae hi'n galw am ragor o hyfforddiant i staff sydd yn delio â myfyrwyr bregus yn aml.

"Dyw'r ymwybyddiaeth ddim yna - dw'i ddim yn credu bod pobl yn sylweddoli pa mor agos ry'n ni'n dod at y myfyrwyr a'n bod ni'n gweld hyn i gyd gyda'n llygaid ein hunain.

"Mae angen mwy o hyfforddiant.  Mae problemau iechyd meddwl ar gynnydd ac felly mae angen cynyddu'r hyfforddiant sydd ar gael hefyd."

Dywedodd corff Prifysgolion Cymru bod iechyd a lles myfyrwyr a staff yn flaenoriaeth iddyn nhw a'u bod nhw am sicrhau bod prifysgolion yn llefydd diogel ac iach i astudio, gweithio a byw.

Mewn datganiad, dywedon nhw: "Rydyn ni'n cydnabod y rôl bwysig sydd gan staff ar y rheng flaen wrth gefnogi myfyrwyr gyda'u hiechyd meddwl.  Mae'n bwysig bod gan gydweithwyr hyfforddiant a chefnogaeth addas sy'n eu galluogi i ymateb i fyfyrwyr sydd yn profi anawsterau yn hyderus.

"Mae ein prifysgolion a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn dulliau strategol iechyd meddwl sydd yn cynnwys hyfforddi staff.  Mae sefydliadau yn cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl a hyfforddiant arall, er mwyn cefnogi lles staff ac er mwyn eu galluogi i gyfeirio myfyrwyr at gefnogaeth arbenigol ac addas o fewn i'r brifysgol, neu i roi cymorth cychwynnol eu hunain os oes ganddyn nhw'r sgiliau i wneud hynny.

"Mae lle o hyd i wneud rhagor ac ry'n ni'n awyddus i glywed sut allwn ni ateb y galw."

Hyfforddiant i staff prifysgol

Mae Tom Kemp erbyn hyn yn swyddog sabothol yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Mae'n dweud ei fod wedi "dysgu byw" gyda'i broblemau iechyd meddwl yn hytrach na "dioddef".

Dyw hi ddim yn syndod iddo fe bod cymaint o fyfyrwyr yn dweud eu bod nhw'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, a hefyd yn galw am ragor o hyfforddiant i helpu rhai sydd mewn argyfwng.

"Ges i brofiad rili dda gyda'r brifysgol a chael yr help ro'n i angen.  Ond nawr, fel swyddog sabothol, dwi'n gweld bod lot fawr o anghysondebau - dyw pawb ddim yn cael yr un driniaeth," meddai.

"Yn bendant byswn i'n lico gweld mwy [o hyfforddiant i staff prifysgol].  Mae'n bwnc mae'n rhaid i chi fod mor sensitif amdano fe...mae'r Undeb wedi talu i fi gael hyfforddiant iechyd meddwl ac roedd hwnna'n grêt achos fi yn teimlo nawr fi yn gallu delio â phroblemau os yw myfyrwyr yn dod ata'i.

"Mae pobl yn gwneud eu gorau - ond mae'n rhaid cael hyfforddiant iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.