Newyddion S4C

Capten Cymru Siwan Lillicrap yn ymddeol o rygbi rhyngwladol

30/11/2022

Capten Cymru Siwan Lillicrap yn ymddeol o rygbi rhyngwladol

Mae capten menywod Cymru, Siwan Lillicrap, wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol. 

Mae'r blaenwr, sydd wedi chwarae yn yr ail reng a'r rheng ôl, wedi ennill 51 o gapiau i Gymru ers chwarae ei gêm gyntaf yn 2016.

Cafodd ei phenodi yn gapten i'r garfan ym mis Tachwedd 2019 ac mae hi wedi arwain y gad yn ystod cyfnod chwyldroadol i rygbi menywod yng Nghymru. 

Roedd Lillicrap yn un o'r 12 chwaraewr cyntaf yng Nghymru i ennill cytundebau proffesiynol, gan wireddu breuddwyd o chwarae rygbi yn llawn amser. 

Llwyddodd y crysau cochion i orffen yn drydydd ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni a chyrraedd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd. 

Dywedodd Lillicrap, a wnaeth droi'n 35 mis diwethaf, ei bod yn gwybod bod yr amser yn iawn iddi roi'r gorau i chwarae dros ei gwlad. 

"Mae'n teimlo fel yr amser iawn i wneud y penderfyniad yma i gamu nôl o fod yn chwaraewr rhyngwladol wrth i baratoadau ddechrau am y Cwpan y Byd nesaf," meddai.

"Mae wedi bod yn benderfyniad anodd oherwydd mae'r crys coch yn meddwl gymaint i mi, ond yn gorfforol mae'n teimlo fel yr amser iawn.

"Ni gyd wedi gweithio mor galed dros y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer Cwpan y Byd a dwi'n ddiolchgar i gael y cyfle i wireddu breuddwyd fel chwaraewr llawn amser." 

Yn dilyn y cyhoeddiad, fe wnaeth hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham, ganmol Lillicrap am ei dylanwad ar rygbi menywod yng Nghymru.

"Mae hi wedi chwarae rôl enfawr yn natblygiad y garfan ac wedi sicrhau bod dyfodol y gêm mewn dwylo da.

"Mae wedi ysbrydoli'r genhedlaeth newydd a dwi'n sicr byddwn yn gweithio gyda'n gilydd rhywbryd yn y dyfodol."

Fe fydd Lillicrap yn parhau i chwarae yn uwch gynghrair rygbi Lloegr, wedi iddi symud o Fryste i Gaerloyw ym mis Gorffennaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.