Newyddion S4C

‘Gormod o chwaraewyr Cymru ddim yn chwarae'n gyson i'w clybiau’

Newyddion S4C 30/11/2022

‘Gormod o chwaraewyr Cymru ddim yn chwarae'n gyson i'w clybiau’

Mae cyn-chwaraewr Cymru, Iwan Roberts wedi dweud fod yn rhaid i chwaraewyr Cymru chwarae'n fwy rheolaidd i'w clybiau er mwyn i'r tîm cenedlaethol allu cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol. 

Daw ei sylwadau yn dilyn noson siomedig i Gymru wrth i freuddwyd Cwpan y Byd y wlad ddod i ben yn sgil colled drom i Loegr. 

Ni lwyddodd Cymru i ennill gêm yng Ngrŵp B y gystadleuaeth, ac mae nifer wedi gwneud sylwadau am berfformiadau gwael rhai o chwaraewyr amlycaf Cymru. 

Yn bennaf, mae nifer wedi cwestiynu os all chwaraewyr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey barhau i ddechrau i Gymru pan nad ydynt yn chwarae'n gyson i'w clybiau. 

Yn ôl Iwan Roberts, mae Cymru "wedi eu brifo" oherwydd bod gormod o chwaraewyr yn treulio amser ar y fainc. 

“Dan ni heb chwarae'n dda, dan ni'n gwybod hynny a mae 'na resymau am hynny," meddai. 

"'Di nhw [Gareth Bale ac Aaron Ramsey] heb gael ryw lawer o ddylanwad yn y dair gêm... Ma’ nhw dal yn ddynion ifanc, ma' nhw'n chwaraewyr gwych.

"Ond mae hyn 'di profi allwch chi ddim mynd nôl i'r clybiau ac eistedd ar y fainc, a dod oddi ar y fainc am ryw chwarter awr, 20 munud." 

"Dyna sydd 'di'n brifo ni; gormod o chwaraewyr ddim yn chwarae'n gyson i'w clybiau."

Er hyn, ychwanegodd Roberts fod y chwaraewyr wedi rhoi "atgofion anhygoel" dros y blynyddoedd diwethaf a dylai Cymru "ddod at ei gilydd yn ystod yr amseroedd siomedig.”

Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd hyfforddwr Cymru, Rob Page: "Ni ddylai gair drwg gael ei ddweud am y grŵp yma o chwaraewyr.

"Allai ddim bod yn fwy balch ohonyn nhw. Mae cyrraedd yma wedi bod yn llwyddiant anhygoel.

"Peidiwch â bod yn siomedig. Mae'n rhaid i ni adeiladu at y dyfodol rŵan ac mae cyrraedd Cwpan y Byd yn llwyddiant anhygoel i'r grŵp yma o chwaraewyr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.