Newyddion S4C

Galw am fwy o ysgolion cynradd Cymraeg yn Abertawe

Newyddion S4C 28/11/2022

Galw am fwy o ysgolion cynradd Cymraeg yn Abertawe

Dydy addysg gynradd Gymraeg yn Abertawe ddim o fewn cyrraedd pawb yn y sir, yn ôl adroddiad diweddar gan Estyn, sef y corff arolygu addysg.

Ar hyn o bryd, 10 ysgol gynradd Gymraeg sydd yn Abertawe – a thair o’r ysgolion hynny eisoes yn orlawn, yn ôl mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG).

Maen nhw hefyd yn rhybuddio bod dwy ysgol arall yn y sir ar fin gorlenwi, gydag ymgyrchwyr iaith lleol yn dadlau nad ydy’r ysgolion presennol yn ddigon mawr i ymdopi â'r cynnydd yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg. 

Mae dwy ysgol gynradd Gymraeg wedi symud i safleoedd newydd yn ddiweddar, sef Ysgol Tirdeunaw ac Ysgol Tan-y-Lan.

"Mae’n dda bod ysgolion newydd wedi dod", meddai Heini Gruffydd, un o’r ymgyrchwyr iaith lleol.

"Ond beth maen nhw wedi’i wneud yn y ddau achos yna yw symud ysgolion allan o’r ardaloedd lle o’n nhw, yn hytrach nag ychwanegu mwy o ysgolion lle byddai gyda chi addysgu Gymraeg mewn mwy nag un man.

"Felly maen nhw’n canoli addysg Gymraeg mewn un man, sy’n golygu bod plant a rhieni yn gorfod teithio’n bell."

Un sy’n gallu tystio i hynny yw  Keith Collins.

Bu’n rhaid i’w ŵyr, a oedd yn bump ar y pryd, deithio bron i bum milltir ar fws i gyrraedd yr ysgol Gymraeg agosaf, sef Ysgol Pontybrenin yng Ngorseinon.

"Mae’n dipyn o daith, ac o’dd yr un bach wedi blino yn dod adref o’r ysgol", meddai Keith.

"A gyda’r ysgol newydd yma wedi agor nawr, na’th y teulu benderfynu ei bod hi’n amser i symud tŷ i fod yn agosach at yr ysgol."

Image
Abertawe
10 ysgol gynradd Gymraeg sydd yn Abertawe ar hyn o bryd.

'Dwy ysgol uwchradd'

Mae hi’n neges sy’n cael ei hadleisio ar draws y sir.

Yn ardal Sgeti, mae grŵp ‘Ti a Fi’ yn cwrdd yn wythnosol er mwyn rhoi cyfle i’w plant siarad Cymraeg, a’r pryderon yn amlwg ymysg y mamau yno.

"Does dim llawer o ysgolion cynradd Cymraeg i ddechrau, ond hefyd dim ond dwy ysgol uwchradd Gymraeg sydd ar gael", meddai Hannah Poole.

"Mae bachgen bach fi yn dosbarth meithrin ar y funud yn Bryn-y-Môr, a ni newydd trio cael lle yn nursery iddo fe, a na’thon nhw ddweud bod dim llawer o lefydd nawr i’r rhai sydd yn meithrin.

"So falle ni’n gorfod edrych mas o pellter ni – ac mae’r traffig yn Abertawe yn ofnadwy."

Mae arweinydd y grŵp, Juliet Evans, yn rhannu’r un pryderon.

"Mae niece fi yn mynd i Ysgol Lôn Las, ond ni’n byw yn St Thomas, felly mae angen i fi gyrru hi lan oherwydd does dim digon o bysys," meddai.

A beth yw goblygiadau hyn, yn ôl Juliet?

"Mae hyn yn golygu bod rhieni jyst yn teimlo bod e’n haws mynd i ysgol Saesneg yn lle."

'Galw yn uchel'

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Sir Abertawe: "Rydym ni’n buddsoddi dros £150 miliwn i adeiladu ysgolion sydd o well safon yn y sir.

"Y nod yw cynyddu nifer y disgyblion sy’n dewis darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

"Rydym yn parhau i sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd mewn ardaloedd lle mae’r galw yn uchel."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.