Newyddion S4C

64 o flynyddoedd o aros ar ben wrth i ymgyrch Cwpan y Byd Cymru ddechrau

64 o flynyddoedd o aros ar ben wrth i ymgyrch Cwpan y Byd Cymru ddechrau

NS4C 21/11/2022

Mae 64 o flynyddoedd yn amser rhy hir i'r cof i lawer o gefnogwyr Cymru sydd yn edrych ymlaen yn eiddgar at gêm gyntaf dynion Rob Page yng Nghwpan y Byd yn ddiweddarach dydd Llun. 

Ychydig iawn sydd yn cofio'r tro diwethaf i Gymru ymddangos yng nghystadleuaeth chwaraeon fwya'r byd yn 1958.

Hon oedd y flwyddyn pan gafodd NASA ei ffurfio, y microchip ei ddyfeisio, a blwyddyn dywyll yn hanes clwb pêl-droed Manchester United, gyda thrychineb Munich yn digwydd ym mis Chwefror y flwyddyn honno.

Fe ddaeth Nikita Khrushchev yn arweinydd ar yr Undeb Sofietaidd, ymunodd Elvis Presley gyda'r fyddin, a Brasil oedd yn fuddugol yng Nghwpan y Byd, ar ôl curo Cymru'n gynharach yn y gystadleuaeth.

Nos Lun, yn stadiwm Al-Rayyan, mae pennod newydd wedi dechrau yn hanes pêl-droed Cymru. 

Yn gynharach fe roddodd Lloegr grasfa o 6-2 i Iran, gyda'r ddau dîm yn grwp B hefyd.

Fe gafodd nifer o gefnogwyr Lloegr drafferth cael mynediad i'r stadiwm o achos problemau technegol gyda'r apiau perthnasol ar eu ffonau symudol.

Mae'r cefnogwyr ffodus hynny sydd wedi teithio o Gymru i Qatar yn eu miloedd wedi bod yn rhannu'r cyffro o gael bod yno ar gyfryngau cymdeithasol:

Prif Lun: Mared Rhys 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.