Ecwador yn ennill gêm agoriadol Cwpan y Byd yn Qatar
20/11/2022
Mae Ecwador wedi ennill gêm agoriadol Cwpan y Byd yn Qatar.
Fe gurodd Ecwador y tîm cartref Qatar o 2-0 yng Ngrŵp A yn stadiwm Al Bayt i'r gogledd o Doha brynhawn dydd Sul.
Fe sgoriodd Enner Valencia, cyn-ymosodwr West Ham United ac Everton y ddwy gôl yn yr hanner cyntaf i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Llun: Twitter/FEFecuador