Newyddion S4C

Aelodau tîm pêl-droed LHDTI+ ‘ddim yn gallu cefnogi Cwpan y Byd eleni’

ITV Cymru 21/11/2022
Dreigiau Caerdydd

Mae aelodau o’r tîm pêl-droed LHDTI+ cyntaf yng Nghymru yn dweud eu bod nhw "am foicotio Cwpan y Byd"  trwy beidio â gwylio unrhyw gemau. 

Mewn cyfweliad gyda ITV Cymru, fe ddywedodd aelodau o dîm Dreigiau Caerdydd eu bod nhw'n methu cefnogi’r gystadleuaeth yn Qatar.

Mae Erthygl 285 o God Cosb Qatar yn gwahardd gweithredoedd rhywiol rhwng dau berson o’r un rhyw. Gallai unigolyn wynebu hyd at saith mlynedd yn y carchar.

Mae Qatar yn cydnabod Islam fel crefydd swyddogol y wladwriaeth, ac o dan gyfraith Sharia gall dynion Mwslimaidd gael eu dedfrydu i farwolaeth. 

Er bod adroddiadau’n datgan bod Qatar yn ddiogel ar gyfer cefnogwyr LHDTI+ os ydyn nhw’n parchu rheolau’r wlad, nid yw pob cefnogwr yn ffyddiog mai dyna realiti'r sefyllfa. 

Charlotte Galloway yw cadeirydd Dreigiau Caerdydd.

“Nid dweud wrth bobl LHDTI+ mae’n ddiogel i gefnogi eich gwlad yn Qatar yw’r broblem. Dy’n ni ddim yn poeni am ein diogelwch ni. Mae hi’n fwy na hynny."

Mae Charlotte hefyd yn bryderus am hawliau dynol y wlad. 

"Mae nifer o bobl wedi cael eu niweidio draw yno ar y prosiectau isadeiledd yn adeiladu Cwpan y Byd.

Image
Charlotte Galloway
Charlotte Galloway yw cadeirydd Dreigiau Caerdydd

“Dydw i ddim yn ymwybodol bod unrhyw un o'n clwb ni yn mynd draw i wylio'r gemau. Yn bersonol, mae'n siŵr fyddai ddim yn gwylio’r gemau ‘chwaith,” meddai Charlotte. 

“Fydda i'n trio peidio cymryd diddordeb a'i foicotio, ond yn amlwg mi fydda i'n cadw llygad ar y sgoriau. 

“Fydda i ddim yn prynu crys i unrhyw dîm. Cefais fy ngeni yn Lloegr, mae fy nhad o’r Alban, rwy'n byw yng Nghymru ond fydda i ddim yn prynu crys i un o'r gwledydd hynny. Dwi’n teimlo fel na allai gefnogi Cwpan y Byd eleni."  

Dywedodd Harry, sy’n chwarae i dîm Dreigiau Caerdydd: “Yn amlwg, allwn ni ddim newid y ffaith ei fod yn digwydd yn Qatar nawr. Ond dwi'n gobeithio gall hyn annog pobl i ail feddwl cyn gwneud penderfyniadau fel hyn yn y dyfodol. 

“Dydw i ddim yn meddwl ei bod hi’n syniad da i'w chynnal yno. Hyd yn oed os ydyn nhw'n ei gwneud hi'n ddiogel i bobl LHDTI+ tra bod Cwpan y Byd yn cael ei gynnal, dydy hynny ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r bobl sy'n byw yn Qatar sy'n LHDTI+ wedyn oherwydd mae'n siŵr y bydd yr un math o ddeddfwriaeth yn bodoli ar ôl hynny,” meddai. 

Er gwaetha’r materion hyn, yr amcangyfrif yw bod 3,000 o gefnogwyr Cymru wedi mynd i Qatar.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.