Newyddion S4C

Cyhoeddi enillydd The Great British Bake Off 2022

16/11/2022
Syabira Bake Off

Fe gafodd enw enillydd diweddaraf cyfres goginio The Great British Bake Off ei gyhoeddi nos Fawrth.

Yn dilyn y rownd derfynol, lle bu'n rhaid i'r tri chogydd ddangos eu doniau yn y babell, Syabira oedd yn fuddugol.

Mae Syabira'n ymuno â'r 12 enillydd arall sydd wedi bod ers i'r gyfres ddechrau yn 2010.

Cafodd Syabira ei geni ym Malaysia cyn symud i'r DU yn 2013 i astudio PhD.

Mae hi bellach yn byw yn Llundain gyda'i chariad, Bradley.

Yn ôl Syabira, mae hi'n hoff iawn o gyflwyno blasau Malaysiaidd i fwydydd Prydeinig clasurol - gan gynnwys pastai Cernyweg rendang cyw iâr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.