Yr economi: Cyflogau wedi codi'n uwch na'r disgwyl

Mae cyflogau wedi codi yn uwch na'r disgwyl yn ystod y tri mis hyd at fis Medi yn ôl ffigyrau Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Dangosa ffigyrau'r ONS bod cyflogau wedi codi ar gyfradd flynyddol o 5.7%.
Ond mae hyn tipyn is na chwyddiant, sydd dros 10%.
Mae cyfradd diweithdra hefyd wedi codi fymryn i 3.6% - 3.5% oedd y ffigwr ym mis Awst.
Darllenwch ragor yma.