Newyddion S4C

Zelensky

Rwsia'n euog o droseddau rhyfel yn Kherson medd Zelensky

Al Jazeera 14/11/2022

Mae arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky wedi dweud bod Rwsia yn euog o gyflawni troseddau rhyfel tra'r oedd ei lluoedd yn meddiannu Kherson yn ne'r wlad.

Fe wnaeth Arlywydd Zelensky ymweld â Kherson ddydd Llun yn dilyn ymadawiad lluoedd Rwsia o'r ddinas dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd yn ei anerchiad wythnosol i'r wlad nos Sul bod Rwsia wedi cyflawni troseddau rhyfel tra'r oedd yr ardal yn ei meddiant.

“Mae ymchwilwyr wedi dogfennu mwy na 400 o droseddau rhyfel gan Rwsia. Mae cyrff pobl a milwyr meirw wedi cael eu darganfod," meddai.

Mae Rwsia yn gwadu'r cyhuddiadau.

Gadael Kherson oedd un o'r camau milwrol mwyaf sylweddol gan Rwsia ers dechrau'r gwrthdaro ym mis Chwefror.

Darllenwch fwy yma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.