Newyddion S4C

'Dim disgwyl unrhyw sioc' wrth gyhoeddi carfan Cymru medd Iwan Roberts

'Dim disgwyl unrhyw sioc' wrth gyhoeddi carfan Cymru medd Iwan Roberts

NS4C 09/11/2022

Ar drothwy cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ddydd Mercher, mae cyn-chwaraewr Cymru a'r sylwebydd Iwan Roberts yn dweud nad yw'n disgwyl unrhyw enwau annisgwyl i fynd i Qatar.

Wrth siarad cyn sylwebu ar gêm yn y Bencampwriaeth rhwng Birmingham ac Abertawe nos Fawrth, dywedodd y sylwebydd bod y rhan fwyaf o'r garfan wedi ei dewis.

Ond dywedodd bod penderfyniad FIFA i gynyddu nifer y chwaraewyr yn y garfan o 23 i 26 yn rhoi cyfle i enwau newydd gael eu cynnwys.

"Am y tro cyntaf ma rheolwyr yn ca'l dewis carfan o 26 a dwi'n meddwl bod huna yn rhoid y cyfla i reolwyr a prif hyfforddwyr ychwanegu un neu ddau o chwaraewyr o'dd ella ddim yn ca'l y cyfla," meddai.

"'Da ni'n gwbod bod rhan fwya' y garfan yn eu cael eu dewis.  Ma' 'na ryw dri, pedwar safle i fyny. Dwi'n meddwl bod Ben Cabango yn mynd, yn 'y marn i, ma' Oli Cooper yn haeddu mynd ar ôl ei berfformiadau o i Abertawe."

Mae ymosodwr yr Elyrch, Oli Cooper, wedi bod yn chwarae'n dda i'w glwb.  Ers ennill lle yn nhîm cyntaf Abertawe mae'r bachgen ifanc wedi sgorio tair gôl a chreu nifer, ac mae nifer o gefnogwyr yn galw ar iddo gael ei gynnwys yn y garfan.

Er eu bod nhw bellach yn chwarae yn Adran Dau, mae disgwyl y bydd Jonny Williams a Chris Gunter yn cael eu cynnwys yn y garfan gan eu bod nhw'n chwaraewyr rhyngwladol profiadol ac wedi helpu creu awyrgylch y tîm cenedlaethol heddiw.

"Ma' Chris Gunter yn mynd, ma' Jonny Williams yn mynd, mae Robert Page yn dangos ffyddlondeb yn y ddau 'na pan ddoth o mewn i'r garfan," meddai.

Ond nid yw Iwan yn meddwl bydd cyfle i holl chwaraewyr ifanc sydd wedi cael eu galw i'r garfan yn ddiweddar, na chwaith chwaraewyr fel Tyler Roberts a Mark Harris.

"Ydy'r bechgyn ifanc Jordan James a Luke Harris mynd i gael lle?  Dwi'm yn gweld y ddau yn cael eu dewis, allai weld un o'r ddau, ac i fi wrach mae Jordan James gan ei fod yn chwarae yn rheolaidd i Birmingham," meddai.

"Dwi'n gweld chwaraewyr fatha Rabbi Matondo, Mark Harris, a Tyler Roberts yn methu allan."

Bydd carfan Cymru yn cael eu cyhoeddi nos Fercher ym Mhendyrus yn y Rhondda, sef pentref genedigol rheolwr Cymru Robert Page.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.