Newyddion S4C

Awyren yn Llyn Fictoria

O leiaf 19 wedi marw ar ôl i awyren blymio i Lyn Fictoria yn Affrica.

The Independent 06/11/2022

Mae o leiaf 19 o bobl wedi marw ar ôl i awyren blymio i Lyn Fictoria yn Nhansania wrth geisio glanio mewn maes awyr yn Bukoba.

Fe aeth yr awyren i mewn i’r llyn sydd ar ddiwedd llain y maes awyr ac roedd achubwyr a physgotwyr lleol yn medru cerdded trwy’r dŵr at yr awyren er mwyn helpu’r bobl oedd ar ei bwrdd.

Roedd 43 o bobl ar fwrdd yr awyren ac fe achubwyd 26 yn wreiddiol.

Roedd yr awyren wedi hedfan o Dar es Salaam ar yr arfordir ac yn ôl adroddiadau roedd yn ceisio glanio yn Bukoba mewn tywydd garw.

Darllenwch fwy yma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.