Newyddion S4C

Gareth Bale

Gôl allweddol Gareth Bale yn helpu ei dîm ennill cwpan yr MLS

NS4C 06/11/2022

Fe ddaeth capten Cymru oddi ar y fainc yn hwyr yn y gêm i sgorio gôl allweddol i’w dîm Los Angeles yn rownd deerfynol cwpan yr MLS yn yr UDA.

Fe ddaeth Bale i’r cae wedi 128 munud i benio gôl i wneud y sgôr yn gyfartal o 3-3 yn erbyn Philadelphia Union.

Aeth Los Angeles ymlaen i ennill 3-0 ar giciau o’r smotyn i ennill cwpan yr MLS am y tro cyntaf.

Mae hyn yn hwb i gefnogwyr Cymru ar drothwy Cwpan y Byd yn Qatar ar ddiwedd y mis.

Dywedodd Bale ar ôl y gêm: “Mae bob amser yn neis i sgorio mewn ffeinals. Mae’n fawr. Mae’n bwysig i’r clwb. Mae’n bwysig i’r ffans.”

Llun: Twitter/LAFC

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.