Newyddion S4C

Seland Newydd yn drech na Chymru unwaith eto yng Nghaerdydd

Seland Newydd yn drech na Chymru unwaith eto yng Nghaerdydd

NS4C 05/11/2022

Colli bu hanes Cymru unwaith eto i Seland Newydd yng Nghaerdydd o 23-55.

Bu’n rhaid i Gymru wneud un newid cyn y gêm oherwydd anaf i’r cefnwr Leigh Halfpenny gyda Gareth Anscombe yn symud i'w le a Rhys Priestland yn dod oddi ar y fainc i safle’r maswr.

Roedd y dyfarnwr Wayne Barnes o Loegr yn cymryd gofal o'i ganfed gêm rynglwadol.

Daeth pwyntiau cynta’r gêm ar ôl chwe munud i Seland Newydd gyda’r maswr Richie Mo’unga yn cicio gôl gosb.

Fe aeth y Crysau Duon ymhellach ar y blaen gyda chais gan y bachwr Cody Taylor ar ôl i Seland Newydd dorri trwy amddiffyn Cymru yng nghanol y cae gyda Mo’unga’n trosi.

Daeth ail gais y Crysau Duon a Taylor wedi 18 munud ar ôl i Gymru gael eu cosbi yn agos at y llinell. Gyda Mo’unga yn trosi eto i ymestyn y bwlch i 17 pwynt, roedd yn argoeli am brynhawn hir i Gymru.

Cafwyd llygedyn o obaith i Gymru ar ôl 25 munud pan groesodd yr asgellwr Rio Dyer yn ei gêm gyntaf dros ei wlad yn dilyn symudiad hyfryd gan yr olwyr. Daeth trosiad Anscombe â Chymru nôl i mewn i’r gêm.

Fe giciodd Anscombe gôl gosb ar ôl 30 munud i ddod â Chymru o fewn trosgais pan gafodd yr ymwelwyr eu cosbi o flaen y pyst.

Fe sgoriodd Seland Newydd trydydd cais ar ôl i’r canolwr Jordie Barrett ddal cic letraws Mo-unga i roi mantais o 12 pwynt i’w dîm.

Anscombe sgoriodd pwyntiau ola’r hanner gyda gôl gosb arall i gadw Cymru yn y gêm ar yr egwyl o 13-22.

Gobaith

Roedd sgorio pwyntiau cynta’r ail hanner yn bwysig i Gymru os am gystadlu am y fuddugoliaeth. Daeth y cyfle i Gymru gyda chic gosb arall gan Anscombe ar ôl cyfnod o bwysau gan Gymru. Cymru 16-22 Seland Newydd.

Ond daeth pedwerydd cais Seland Newydd funud yn ddiweddarach gyda chais unigol gan y mewnwr Aaron Smith a gyda Mo’unga yn trosi roedd yr ymwelwyr yn rheoli’r gêm unwaith eto.

Nid oedd Cymru am ildio a daeth cais i’r capten Justin Tipuric wrth i’r dyfarnwr chwarae mantais i Gymru a rhoddwyd y cais ar ôl gwirio fod y bêl wedi ei thirio yn gywir. Fe drosodd Anscombe eto ac roedd Cymru nôl yn y gêm ac o fewn chwe phwynt.

Ond fe darodd Seland Newydd nôl yn syth gydag ail gais i Smith a phedwerydd trosiad Mo'unga.

Fe chwalwyd unrhyw obaith oedd gan Gymru i frwydro nôl pan sgoriodd Seland Newydd chweched cais gyda'r wythwr Ardie Savea yn coroni perfformiad arbennig ganddo fe a’r Crysau Duon yn croesi’r 40 pwynt.

Daeth seithfed cais i Seland Newydd ac ail i Jordie Barrett gyda dwy funud yn weddill a’i frawd Beauden yn trosi.

Fe rwbiwyd halen yn y briw gan Seland Newydd gydag wythfed cais i'r eilydd Taukeihao a Barrett yn trosi eto.

Y sgôr terfynol, Cymru 23 - 55 Seland Newydd.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.