Newyddion S4C

Dan Biggar

Dan Biggar yn gadael Northampton Saints i ymuno gyda Toulon

NS4C 04/11/2022

Mae rhif 10 Cymru, Dan Biggar yn gadael clwb Northampton Saints i ymuno gyda thîm Toulon yn Ffrainc.

Fe wnaeth Biggar chwarae 69 o gemau i'r Seintiau, gan sgorio 614 pwynt.

Bydd nawr yn ymuno â chlwb Toulon yn Ffrainc, sy'n bedwerydd yng nghynghrair Top 14.

Ni fydd Biggar yn rhan o garfan Cymru ar gyfer gemau'r Hydref oherwydd anaf.

Justin Tipuric fydd yn cymryd yr awenau fel capten Cymru.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.