Newyddion S4C

Peintio murluniau ar draws Cymru wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd

04/11/2022
S4C

Bydd Mentrau Iaith yn cyhoeddi murluniau ar draws Cymru er mwyn dathlu llwyddiant Cymru o gyrraedd Cwpan y byd. 

Tegerin Roberts a Lloyd Jenkins ydy'r artistiaid graffiti sydd wedi dylunio a pheintio'r murluniau, a dywedodd Lloyd fod rhieni Joe Allen wedi rhoi eu sêl bendith i'r murlun ohono yn Arberth. 

"Roedden nhw wrth eu boddau, yn blêsd iawn, dyna oedd y peth pwysicaf i mi. Roeddwn i’n gallu ymlacio wedyn."

Mae murlun o Gareth Bale hefyd wedi ei ddylunio yn yr Ais yng Nghaerdydd. 

Dywedodd Prif Weithredwr Menter Caerdydd, Heulyn Rees, ei bod hi'n "hyfryd cael y murlun gwych o Gareth Bale yng nghanol y ddinas. Mae'n sicr o godi gwên. Gobeithio daw llawer o bobl i'r Hen Lyfrgell i dynnu lluniau a theimlo'r ysbrydoliaeth mae Gareth Bale a'r tîm yn rhoi i ni i gyd."

Image
S4C

Bydd mwy o furluniau yn ymddangos yng Nghymru yn y dyddiau nesaf, o Ynys Môn i Rhondda Cynon Taf, ac o Wynedd i Abertawe. 

Dywedodd y Cydlynydd Priosectau gyda Mentrau Iaith Cymru, Daniela Schlick, fod "pwyllgor bach wedi dod at ei gilydd i drafod syniadau sut i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru a’r gyfres o furluniau oedd yn un amlwg iawn i ni – yn llythrennol. Ein nod ni ydy cyfleu ysbryd y tîm a’r Cymry ar y murluniau.

"Yn bwysicach na dim rydym yn awyddus i gyrraedd cymunedau Cymru iddyn nhw allu fod yn rhan o’r dathliadau a gallu cadw rhywbeth yn ein cymunedau sy’n parhau. Mae’r murluniau’n fwriadol mewn lleoliadau sydd yn agos at y cymunedau. Rydym yn dathlu tîm Cymru, ein hiaith a’n diwylliant trwy groesawu pawb o bob man i ddathlu gyda ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.