Newyddion S4C

Barn y bobl ar 'het bwced' anferth canol Caerdydd

Barn y bobl ar 'het bwced' anferth canol Caerdydd

NS4C 03/11/2022

Mae golygfa a hanner yn disgwyl siopwyr yng nghanol Caerdydd ddydd Iau wrth i "het bwced" enfawr ymddangos yng nghanol y stryd.

Wrth i bobl dreulio'u hanner tymor yn siopa yn yr Aes, mae atgof clir o'r ffaith y bydd Cymru yn cystadlu ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd ymhen rhai wythnosau.

Mae'r "het bwced" coch, gwyrdd a melyn yn eitem gyfarwydd mewn gemau pêl-droed Cymru erbyn hyn ac mae'n debygol y bydd nifer ohonynt yn mynd i Qatar.

Ond beth yw'r farn yng nghanol y brifddinas am yr het?

"O'n i jyst yn trafod ar y ffordd 'ma nawr, mae'n fatha iconic ac maen nhw hefyd yn anodd i'w cael nawr, maen nhw mor boblogaidd," meddai un cefnogwr yn y brifddinas.

"Chi'n gweld yr holl lluniau o'r dorf yn y Canton Stand yn Stadiwm Dinas Caerdydd a...mae'n marc dechrau y countdown nawr i Cwpan y Byd."

Yn ôl cefnogwr arall "mae'n beth da fod e'n cael ei arddangos fan hyn yn Gaerdydd".

"Mae'r bucket hat yn beth pwysig iawn i cefnogwyr Cymru a mae'n peth da fod e'n ganol Caerdydd, mae'r plant yn stopo a siarad am pêl-droed Cymru."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.