Wrecsam: Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn cael eu hystyried am 'anrhydedd fawr'
Mae Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi "diolch" i Gyngor Wrecsam am eu hystyried ar gyfer "anrhydedd fawr".
Mewn cyfarfod ar 21 Rhagfyr, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystyried rhoi rhyddid anrhydeddus y sir iddyn nhw.
Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, sydd hefyd yn sêr Hollywood, wrth eu bodd i glywed eu bod yn cael eu hystyried ar gyfer yr anrhydedd, yn ôl y clwb.
Dywedodd y ddau mewn datganiad ar y cyd fod hi'n "anrhydedd fawr" sydd wedi ei chynnig gan y Cyngor yn sgil "cyhoeddusrwydd ac ymwybyddiaeth" byd-eang i'r clwb ac i Wrecsam.
Yn ôl y ddau, mae'r rhaglen ddogfen ar Disney+, Welcome to Wrexham, wedi cyflwyno'r ddinas i aelwydydd ar draws y byd.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd yr ail gyfres o'r rhaglen yn "cynyddu'r niferoedd" o bobl sydd bellach yn gwybod am Wrecsam.