Newyddion S4C

Menywod Cymru

Dim newidiadau i garfan bêl-droed menywod Cymru ar gyfer gêm yn erbyn Y Ffindir

NS4C 02/11/2022

Does dim newidiadau wedi'u gwneud i garfan bêl-droed menywod Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer gêm prawf yn erbyn Y Ffindir yn Sbaen wythnos nesaf. 

Mae'r prif hyfforddwr Gemma Grainger wedi dewis yr un 26 chwaraewr a wnaeth gynrychioli Cymru yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd fis Hydref. 

Daeth y garfan o fewn trwch blewyn i gyrraedd ei phencampwriaeth ryngwladol gyntaf erioed, gan golli yn eiliadau olaf yr amser ychwanegol yn erbyn Y Swistir. 

Fe fydd y garfan nawr yn cael cyfle i adlewyrchu ar yr ymgyrch ragbrofol yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Y Ffindir yn Stadiwm Pinatar ar 12 Tachwedd. 

Mae'r gêm yn rhoi cyfle i Gemma Grainger arbrofi gyda'i charfan, gan gynnwys chwaraewyr iau yn y tîm. 

Bydd chwaraewyr ifanc fel Maria Francis-Jones, Chloe Bull a Chloe Williams yn ysu i ychwanegu at eu capiau, tra bod Morgan Rogers a Safia Middleton-Patel yn dal i aros am eu cyfle cyntaf i gynrychioli eu gwlad. 

Maew'n bosibl hefyd mai hon fydd gêm olaf un o gewri pêl-droed Cymru. 

Yn sgil y golled yn erbyn Y Swistir, roedd ofnau y byddai Helen Ward yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol. 

Dywedodd yr ymosodwr, sydd wedi ennill 100 o gap a sgorio'r nifer fwyaf o goliau yn hanes Cymru, ei bod yn bwriadu ymddeol ar ôl Cwpan y Byd os y byddai Cymru yn llwyddo i gyrraedd y bencampwriaeth. 

Fe fydd cefnogwyr y Wal Goch yn gobeithio nad y gêm yn Sbaen fydd yr olaf i Ward ei chwarae mewn crys coch, ac y bydd cyfle i'r ymosodwr ffarwelio â'r cefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd. 

Dyma fydd y tro olaf i chwaraewyr Cymru ymgasglu yn 2022, ar ddiwedd blwyddyn hanesyddol i garfan y menywod. 

Cafodd y record ar gyfer y dorf fwyaf yn hanes pêl-droed menywod Cymru ei chwalu ddwywaith, yn gyntaf yn erbyn Slofenia yng ngêm olaf y grwpiau rhagbrofol cyn i fwy na 15,000 o gefnogwyr wylio'r fuddugoliaeth yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn rownd gyntaf y gemau ail gyfle. 

Y gobaith yw y bydd menywod Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth yn 2023, gan droi ei ffocws at gyrraedd pencampwriaeth Euro 2025. 

Carfan Cymru 

Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Olivia CLARK (Bristol City), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Rhiannon ROBERTS (Liverpool), Josie GREEN (Leicester City), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Reading), Rachel ROWE (Reading), Lily WOODHAM (Reading), Sophie INGLE (Chelsea), Anna FILBEY (Crystal Palace), Angharad JAMES (Tottenham Hotspur), Georgia WALTERS (Sheffield United), Charlie ESTCOURT (Birmingham City), Jess FISHLOCK (OL Reign), Carrie JONES (Leicester City – ar fenthyg o Manchester United), Ffion MORGAN (Bristol City), Megan WYNNE (Southampton), Elise HUGHES (Crystal Palace), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Helen WARD (Watford), Ceri HOLLAND (Liverpool), Maria FRANCIS-JONES (Sheffield United – ar fenthyg o Manchester City), Chloe WILLIAMS (Blackburn Rovers – ar fenthyg o Manchester United), Morgan ROGERS (Watford), Chloe BULL (Bristol City).

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.