Newyddion S4C

Llanelli v Seland Newydd 1972

Dathlu 50 mlynedd ers buddugoliaeth hanesyddol Llanelli yn erbyn Seland Newydd

NS4C 31/10/2022

Mae'n 50 mlynedd i'r diwrnod ers buddugoliaeth hanesyddol a chwedlonol Llanelli yn erbyn Crysau Duon Seland Newydd o 9-3.

Roedd Parc y Strade yn orlawn gyda 22,000 o gefnogwyr yn gwylio ar y prynhawn dydd Mawrth hwnnw.

Yn dilyn y fuddugoliaeth fe redodd tafarndai tre’r sosban allan o gwrw.

Roedd arwyddocad arall i’r canlyniad wrth i’r fuddugoliaeth ddod yn ystod tymor canmlwyddiant y clwb.

Yn 21 oed, y canolwr Ray Gravell oedd yr ifancaf yn nhîm Llanelli, dim ond un diwrnod yn iau na'r blaenasgellwr Gareth Jenkins.

Talu'r pwyth yn ôl

Roedd y Crysau Duon yn ysu i dalu’r pwyth yn ôl i hyfforddwr Llanelli, Carwyn James oedd wedi arwain Y Llewod i fuddugoliaeth o 2-1 yn y gyfres yn Seland Newydd y flwyddyn gynt.

Yn ei araith cyn y gêm dywedodd y capten a'r ail-reng Delme Thomas wrth ei gyd-chwaraewyr: “ Rwy’n gwybod y bydd yn galed. Bydd hanner ohonoch chi’n cael eich cario o’r cae oherwydd ei fod mor galed. Ond peidiwch â phoeni am hynny os gallwch ddarllen yn y papur fory eich bod wedi curo’r Crysau Duon. Rwy’n fodlon cyfnewid popeth rwyf wedi ei gyflawni gyda Chymru a’r Llewod am ennill ar ein cae ni o flaen ein pobl ni.”

Fe ddaeth pwyntiau Llanelli o gais gan y canolwr Roy Bergiers. Fe lwyddodd i daro’r bêl i lawr wrth i Seland Newydd geisio cliro’r bêl ar ôl i ymgais y maswr Phil Bennett daro’r postyn. Trosodd Bennett i roi ei dîm 6-0 ar y blaen.

Fe giciodd yr asgellwr Andy Hill gôl gosb anferth a chic gosb gan y cefnwr Joe Karam oedd unig sgôr yr ymwelwyr.

Image
Llanelli v Seland Newydd 1972

Tîm Llanelli:

15. Roger Davies

14. J.J. Williams

13. Roy Bergiers

12. Ray Gravell

11. Andy Hill

10. Phil Bennett

  9. Chico Hopkins

  8. Hefin Jenkins

  7. Gareth Jenkins

  6. Tommy David

  5. Derek Quinnell

  4. Delme Thomas (c)

  3. Barry Llewelyn

  2. Roy Thomas

  1. Tony Crocker

Tîm Seland Newydd:

15. Joe Karam

14. Bryan Williams

13. Bruce Robertson

12. Mark Sayers

11. Duncan Hales

10. Bob Burgess

  9. Lin Colling

  8. Alan Sutherland

  7. Ian Kirkpatrick (c)

  6. Alastair Scown

  5. Peter Whiting

  4. Andy Haden

  3. Graham Whiting

  2. Ron Urlich

  1. Keith Murdoch

Dyafrnwr: Mike Titcomb (Lloegr)

Lluniau: Asiantaeth Huw Evans, Clwb Rygbi Scarlets

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.