Newyddion S4C

JLL

Y cerddor Jerry Lee Lewis wedi marw'n 87 oed

NS4C 28/10/2022

Mae Jerry Lee Lewis, un o leisiau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth fodern, wedi marw'n 87 oed.

Daeth yn enwog am ei ganeuon megis 'Great Balls of Fire' a 'Whole Lot of Shakin’ Going On', ac roedd ei gerddoriaeth a'i fywyd personol yn ddadleuol i lawer.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd ei gyhoeddwr Zach Farnum mai Lewis oedd "efallai yr eicon olaf, gwirioneddol wych o gyfnod genedigaeth roc a rôl.

"Roedd ei gyfuniad o'r blues, canu gospel, canu gwlad, a honky-tonk mor amrwd, a'i berfformiadau llwyfan mor fygythiol fel ei fod wedi gwneud i'r Elvis Presley ifanc grio.

“Roedd yno ar y dechrau, gydag Elvis, Johnny Cash, Chuck Berry, Little Richard, Carl Perkins, Fats Domino, Buddy Holly, a’r gweddill, ac fe wyliodd nhw'n pylu fesul un nes mai ef yn unig oedd i dystio, a chanu am enedigaeth roc a rôl.”

Bu farw yn ei gartref ym Memphis.

Llun: Silvio Tananka

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.