Newyddion S4C

Caledi cymunedau Cymru 'tu hwnt i unrhyw beth' mae elusen wedi'i weld

Caledi cymunedau Cymru 'tu hwnt i unrhyw beth' mae elusen wedi'i weld

Newyddion S4C 27/10/2022

Mae elusen yn dweud bod caledi cymunedau yng Nghymru yn sgil yr argyfwng costau byw "tu hwnt i unrhyw beth" mae hi wedi gweld o'r blaen. 

Yn ôl yr elusen tlodi ac anghydraddoldeb Sefydliad Bevan, fe all bywydau miloedd o deuluoedd yng Nghymru fynd yn anoddach fyth heb ragor o gymorth gan y llywodraeth newydd yn San Steffan. 

Mae Newyddion S4C wedi teithio i un o ardaloedd tlotaf Cymru i weld yr effaith mae'r sefyllfa bresennol yn ei chael ar bobl leol. 

'Sefyllfa warthus'

Cafodd Stad Penrhys yn Rhondda Cynon Taf ei chodi yn yr 1960au, ac yn ôl Llywodraeth Cymru mae bron i hanner o'i thrigolion yn wynebu amddifadedd incwm.

Wedi'i lleoli yn y stad mai Canolfan Gymunedol Eglwys Llanfair, sydd wedi troi yn galon i'r gymuned leol yn ystod cyfnod anodd. 

Mae Neil Thomas yn gwirfoddoli yn y ganolfan ac yn aml yn gweithio shifftiau 12 awr i roi cymorth i bobl leol.  

“Y broblem fwyaf yw costau byw,” meddai. 

“Mae pobl yn dewis rhwng trydan a bwyd… cadw’r trydan ymlaen yw un o’r pethau mwyaf ym mron i bob aelwyd.  Mae hynny’n gorfod dod cyn nwy, felly mae pobl yn rhanedig. 

 “Ac mi wyt ti’n ystyried gymaint o bobl sy’n cael eu troi allan hefyd.  Mae’r sefyllfa’n warthus ar hyn o bryd.” 

Image
Neil Thomas
Mae Neil Thomas yn dweud bod pethau'n parhau i waethygu.

'Twymo un ystafell'

Yn y ganolfan, mae yna gaffi yn cynnig prydau rhad a man cynnes i bobl leol.  Mae yna hefyd fanc bwyd.

Wrth i Deborah Young, sydd wedi byw ym Mhenrys ers hanner canrif, fwynhau paned, mae'n cydnabod bod pethau yn anoddach nag erioed. 

“Dw i ond yn twymo un ystafell,” meddai.

“’Dw i’n byw mewn un ystafell yn lle twymo’r tŷ cyfan.”

“Mae pethau’n fwy anodd o lawer nawr.  Gyda phrisiau’n codi, ‘dw i’n byw ar fy mhen fy hun, ac mae’n anodd.  Ond ‘dw i’n ymdopi.” 

Mae'r ganolfan yn cael ei hariannu gan roddion o'r eglwys, ond maen nhw hefyd yn dibynnu ar grantiau.  Mae'n rhaid iddyn nhw ymgeisio am rhain yn gyson ac maent yn dod yn anos i'w cael. 

Mae yna hefyd brydeorn o fewn y ganolfan dros ddyfodol pobl leol, yn enwedig yn sgil cyhoeddiad y Canghellor Jeremy Hunt y byddai’r Gwarant Pris Ynni yn dod i ben ym mis Ebrill. 

Image
Dyffryn Rhondda
Mae rhai ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf ymhlith y tlotaf yng Nghymru.

'Tai mewn tywyllwch'

“Wrth i’r tywydd oeri, fe fydd pobl yn ei chael hi’n fwy anodd – maen nhw eisoes yn cadw’r gwres bant," meddai Neil.

"Mae cymorth y llywodraeth wedi gwneud gwahaniaeth mawr.  Dw i wedi gweld pobl yn ei ddefnyddio yn y ffyrdd iawn."

“Ond ry’n ni eisoes yn gwybod y bydd hynny’n dod i ben, felly bydd llai o drydan a nwy yn cael eu defnyddio.  Byddwn ni’n gweld tai mewn tywyllwch.

"Mae’r hyn ry’n ni’n ei glywed am y cyfnod ar ôl mis Ebrill yn ofidus tu hwnt.” 

Mae Sharen Rees wedi bod yn gwirfoddoli yn y ganolfan ers 30 mlynedd. 

Mae'n dweud bod y ganolfan wedi bod yn brysurach o lawer dros yr wythnosau diwethaf, ond mae'n parhau i feddwl yn bositif. 

"Mae’n her, ond fe fydd pethau’n gwella.” 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.