Newyddion S4C

Buddug Jones

Dyn ‘wedi llofruddio partner ar ôl ei chyhuddo o fod yn anffyddlon'

Metro 27/10/2022

Mae dyn wedi ymddangos yn y Llys wedi’i gyhuddo o guro ei bartner hirdymor i farwolaeth wrth iddi orwedd yn ei gwely.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon, sut y cafodd Buddug Jones, 48, anafiadau “enfawr ac angheuol” i’w phen gan forthwyl trwm.

Cafodd Colin Milburn ei arestio yng nghartref y teulu ar Ynys Môn ym mis Ebrill eleni.

Mae'n gwadu llofruddio'r fam i bedwar.

Dywedodd Gordon Cole KC fod Mr Milburn, 52 oed, yn credu bod Ms Jones yn cael perthynas gudd â rhywun arall.

Er i Ms Jones wadu cael perthynas â rhywun arall, fe wnaeth Milburn ei chyhuddo o fod yn anffyddlon.

Mae’r achos llys yn parhau ac mae disgwyl iddo bara tair wythnos.

Rhagor yma. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.