Newyddion S4C

Tân mewn parc diwydiannol yn Sir Y Fflint

Tân mewn parc diwydiannol yn Sir Y Fflint

NS4C 25/10/2022

Mae'r awyr uwchben pentref Rhyd-y-mwyn yn Sir y Fflint yn llawn mwg, wedi tân mewn parc diwydiannol. 

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i'r safle ger Yr Wyddgrug ar ôl i'r tân gynnau ym Mharc Diwydiannol Anteloupe. 

Yn ôl swyddogion, mae'r fflamau bellach o dan reolaeth. 

Ond mae'r gwasanaeth tân yn dal i annog pobl i gadw draw o'r ardal, ac i drigolion lleol gadw eu ffenestri a drysau ar gau oherwydd y mwg.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.