Paul Davies AS yn derbyn diagnosis o ganser y prostad
Mae Paul Davies, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi dweud y bydd yn wynebu cyfnod o driniaeth yn yr ysbyty am ganser y prostad.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Iau, dywedodd Mr Davies, sy'n cynrychioli etholaeth Preseli Penfro yn y Senedd, y bydd yn derbyn triniaeth dros y misoedd nesaf.
Fe ddiolchodd i staff GIG Cymru am eu gofal, cymorth a chyngor dros yr wythnosau diwethaf.
Mae wedi annog unigolion i wrando ar eu cyrff ac i weld y meddyg yn syth os oes rhywbeth yn teimlo'n wahanol.
Dywedodd y bydd ei swyddfa yn parhau i fod ar agor a bydd yn parhau i geisio cyflawni ei ddyletswyddau o ddydd i ddydd.
Mae Kevin Brennan A.S., sydd wedi derbyn triniaeth am ganser y prostad, wedi cynnig ei gefnogaeth i Mr Davies.
Some personal news. pic.twitter.com/tWrRXgfCIF
— Paul Davies MS/AS (@PaulDaviesPembs) September 22, 2022