Rhyfel Wcráin: Rwsia yn arestio dros 1000 mewn protestiadau gwrthryfel
Rhyfel Wcráin: Rwsia yn arestio dros 1000 mewn protestiadau gwrthryfel
Mae adroddiadau bod heddlu Rwsia wedi arestio cannoedd o brotestwyr mewn rali yn erbyn penderfyniad y Kremlin i alw miloedd o filwyr ychwanegol i ymladd yn Wcráin.
Yn ôl y grŵp hawliau dynol Rwsieg, OVD-Info, roedd nifer fwyaf yr arestiadau yn St Petersburg a Moscow.
Roedd o leiaf 300 o bobl ym Moscow wedi eu harestio o blith mwy na 1,371 ar draws 38 o ddinasoedd ledled y wlad nos Fercher.
Mae lluniau a fideos o’r protestiadau yn dangos protestwyr yn gweiddi “Na i ryfel” wrth i heddlu arfog eu gorfodi i’r llawr a’u llusgo i ffwrdd.
Daw’r protestiadau wedi cyhoeddiad Vladimir Putin ddydd Mercher y byddai'r awdurdodau yn Rwsia yn paratoi pobl a lluoedd ei wlad ar gyfer rhyfel.
Yn ôl adroddiadau fe wnaeth nifer adael Rwsia yn dilyn y cyhoeddiad gyda hediadau allan o Rwsia yn gwerthu allan ddydd Mercher.