Newyddion S4C

Dechrau cynllun i gael gwared â pheilonau trydan o Afon Dwyryd

Dechrau cynllun i gael gwared â pheilonau trydan o Afon Dwyryd

Newyddion S4C 21/09/2022

Mae cynllun gwerth miliynau o bunnoedd i gael gwared ar 10 o beilonau a cheblau trydan o Afon Dwyryd wedi dechrau. 

Mae’r cynllun wedi bod ar droed ers sawl blwyddyn gyda chwyno fod y peilonau, a gafodd eu codi’n wreiddiol ym 1966, yn “hyll” ac yn difetha’r tirlun. 

Er fydd y peilonau ddim yn cael eu dymchwel tan 2029, mae’r gwaith archeolegol eisoes ar waith gyda disgwyl i’r gwaith o dyllu er mwyn gosod gwifrau tanddaearol ddigwydd y flwyddyn nesaf. 

Yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri, mae’r gwaith fydd yn cael ei gynnal gan y Grid Cenedlaethol yn “gyffrous iawn”. 

Ar hyn o bryd mae’r peilonau’n ymestyn ar draws ardal o dros dwy filltir mewn ardal sydd wedi ei chydnabod am ei harddwch. 

Eu nod gwreiddiol oedd cludo trydan o hen bwerdy niwclear Trawsfynydd ond rŵan mi fydd y gwifrau yn cael eu cuddio yn dilyn cronfa gan y Grid Cenedlaethol i wella ardaloedd prydferth sydd wedi eu anharddu gan wifrau tebyg. 

Yn ôl Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheolaeth Tir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae’r gwaith yn cael ei groesawu. 

“Pwrpas statudol y parc ydi lleihau effaith gweledol, gwarchod a gwella y tirwedd y parc felly mae’r prosiect yma yn un uchelgeisiol iawn," meddai.

“Mae’n garreg filltir fawr yn cychwyn ar y ddaear, mae’n mynd i gymryd sawl blwyddyn, mae’n gynllun mawr sy'n costio degau o filiynau o bunnoedd ond mae’n neis gweld y gwaith yn dechrau”. 

Image
Jonathan Crawley
Mae Jonathan Cawley yn falch bod y gwaith bellach wedi dechrau. 

'Cyfle'

Yn ôl Mr Cawley mae’r gymuned leol hefyd wedi ymateb yn gadarnhaol i’r cais gyda neb yn gwrthwynebu tynnu’r peilonau’n lleol.

“Da ni’n gobeithio, yn ogystal â lleihau yr effaith weledol mi fydd ‘na fudd economaidd," meddai.

“Mi fydd 'na weithwyr, yn cyfrannu at y siopau, y caffis y pentrefi lleol a mae ‘na gyfle yna”. 

Pwrpas y gronfa yw i gwblhau’r gwaith gan y Grid Cenedlaethol a wnaeth ddewis y safle o blith dros 100 o ardaloedd eraill i leihau effaith peilonau ar y tirlun drwy Gymru a Lloegr. 

“Mae hon yn ardal hyfryd ac yn rhan prydferth o’r byd, mi yda’ ni mewn parc cenedlaethol felly mae’r prosiect yma wedi cael ei greu er mwyn lleihau effaith weledol ar y tirlun", meddai Stephen Ellison o’r Grid Cenedlaethol. 

“Dyma un o dri chynllun yn y Deyrnas Unedig ac ma' 'na gyfle mawr yma i wella y golygfeydd ac effaith ein asedau ar y tirlun ac yn gwella’r profiad i’r gymuned leol ac ymwelwyr."

Mi fydd y Grid Cenedlaethol rŵan yn gweithio ac yn parhau i ymgynghori gyda’r gymuned leol gan gynnwys ysgolion lleol er mwyn cyflwyno rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y gwaith dros y blynyddoedd nesaf. 

Mi fydd y gwaith o dyllu i osod y ceblau fydd yn 3km o hyd yn digwydd y flwyddyn nesaf cyn dymchwel y peilonau yn 2029. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.