Newyddion S4C

daeargryn Mecsico

Rhybudd am sŵnami ym Mecsico yn dilyn daeargryn

Reuters 19/09/2022

Mae rhybudd sŵnami i rannau o Mecsico yn dilyn daeargryn yn La Placita de Morelos yng ngorllewin y wlad.

Mae System Rhybuddio Sŵnami yr Unol Daleithiau wedi rhoi rhybudd mewn lle am sŵnami ger arfordir talaith Michoacan.

Roedd y daeargryn wedi cyrraedd 7.6 ar y raddfa Richter ac wedi cyrraedd dyfnder o 9.3 milltir.

Digwyddodd y ddaeargryn union yr un dyddiad a daeargrynfeydd Mecsico yn 2017 ac 1985.

Darllenwch ragor yma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.