Ailagor maes parcio i gerbydau trwm yng Nghaergybi
Fe fydd maes parcio cerbydau nwyddau trwm (HGV) yng Nghaergybi yn ail-agor ddydd Llun.
Fe gafodd y cyfleuster ym Mharc Cybi ei gau dros dro ddiwedd mis Mawrth oherwydd pwysau cyllidebol, ond roedd ymrwymiad i gydweithio gyda phartneriaid er mwyn darparu "gwasanaeth costeffeithiol" cyn gynted â phosib medd y llywodraeth.
Fe gafodd y cyfleuster ei greu i ateb y galw am wirio ychwanegol yng Nghaergybi ar ôl Brexit.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Rwy'n falch ein bod yn gallu ailagor y cyfleuster hwn yn dilyn trafodaethau â phartneriaid, a fydd yn darparu ardal am ddim i gerbydau nwyddau trwm stopio cyn neu ar ôl defnyddio porthladd Caergybi.
"Roedd angen i ni ddod o hyd i ffordd gosteffeithiol o ddarparu'r gwasanaeth hwn, y gwyddom ei fod yn cael ei werthfawrogi'n lleol a chan y gyrwyr HGV sy'n ei ddefnyddio. Mae'n newyddion da bod hyn wedi'i gyflawni erbyn hyn.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i ateb tymor hir ond bydd y cyfleuster hwn ym Mhlot 9, Parc Cybi, yn parhau ar agor tan hynny."