Newyddion S4C

Keir Starmer i amlinellu pwerau gwrthderfysgaeth i fynd i'r afael â gangiau smyglo

10/05/2024
starmer.png

Bydd Syr Keir Starmer yn cyhoeddi ddydd Gwener bod y Blaid Lafur yn bwriadu defnyddio pwerau gwrthderfysgaeth newydd i fynd i'r afael â gangiau sy’n anfon mudwyr o Ffrainc ar draws y Sianel yn anghyfreithlon.

Mewn araith yng Nghaint, fe fydd arweinydd y Blaid Lafur yn amlinellu ei gynlluniau i daclo'r argyfwng cychod bach os yw’n ennill yr etholiad cyffredinol.

Mae disgwyl i Syr Keir ddweud y bydd Llafur yn dileu Cynllun Rwanda Llywodraeth y DU, gan ddefnyddio peth o’r arian a fydd yn cael ei arbed i ariannu corff "Rheolaeth Diogelwch Ffiniau" newydd o dan arweiniad cyn-bennaeth heddlu, milwrol neu gudd-wybodaeth.

Bydd hefyd yn pwysleisio ei brofiad fel cyn-bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn addo gwneud Prydain yn “diriogaeth elyniaethus” i gangiau.

Mae disgwyl i Syr Keir ddweud: “Gadewch i ni fod yn glir ar y dechrau, mae’r rhain yn fentrau troseddol rydyn ni’n delio â nhw.

“Busnes sy’n rhoi cenedl yn erbyn cenedl, yn ffynnu yn rhannau aneglur ein rheolau, y craciau rhwng ein sefydliadau, lle maen nhw’n credu y gallant ecsbloetio rhai o’r bobl fwyaf bregus yn y byd yn ddi-gosb."

Ymhlith y mesurau sydd i’w cynnig gan Syr Keir mae proses stopio a chwilio rheoli ffiniau newydd, pwerau ymchwilio ariannol newydd, yn ogystal â gwarantau chwilio sy’n targedu troseddau mewnfudo cyfundrefnol.

Daw araith Syr Keir ar ôl i'r Aelod Seneddol dros Dover, Natalie Elphicke, ymuno â Llafur o’r Ceidwadwyr ddydd Mercher.

Fe gyhuddodd Ms Elphicke y Prif Weinidog Rishi Sunak o fethu â chyflawni ei addewid i “atal y cychod”.

Mae tua 8,826 o ymfudwyr wedi cyrraedd y DU ar ôl croesi’r Sianel hyd yn hyn eleni, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Gartref.

Mae hyn yn gynnydd o 32% ers yr adeg hon y llynedd, pan gofnodwyd 6,691 o ymfudwyr, yn ôl asiantaeth newyddion PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.