'Talp o Gymreictod': Teyrngedau i'r diweddar John Gwynedd o'r Waunfawr
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i John Gwynedd Jones o'r Waunfawr a fu farw'n ddiweddar.
Roedd yn gyfrifydd wrth ei waith ac yn gyfarwyddwr ar nifer o gwmnïau a chyrff diwylliannol dros y blynyddoedd, gan gynnwys Theatr Bara Caws, Cwmni'r Fran Wen ag Antur Waunfawr.
Roedd hefyd yn aelod allweddol o gwmni Barcud Derwen am flynyddoedd.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Theatr Bara Caws eu bod wedi eu "syfrdannu’r diwrnod o’r blaen wrth glywed y newyddion trist am gymeriad oedd yn annwyl iawn i ni yma yn Bara Caws - John Gwynedd.
"Bu’n aelod clos o’n teulu, yn aelod gwerthfawr o’r Bwrdd Cyfarwyddwyr am dros 12 mlynedd ac yn Gadeirydd ffraeth a hwyliog am sawl blwyddyn.
"Roedd yn gymeriad hoffus a chyfeillgar, bob amser yn barod i wenu a chwerthin, ac yn dal i’n cefnogi drwy ddod i weld pob cynhyrchiad a bob tro’n bachu ar y cyfle i gael sgwrs.
"Bydd y golled yn un fawr i ni yma, i’w gymuned yn Waunfawr lle oedd ar gael i bawb oedd angen gair o gyngor neu gefnogaeth, ond yn fwy na dim i’w deulu, ac rydym yn cydymdeimlo’n ddwys gyda nhw."
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ychydig ddyddiau'n ôl, dywedodd Dafydd Iwan fod John Gwynedd yn "dalp o Gymreictod a chalon fawr", a'i fod wedi gwasanaethu ei genedl "am hanner canrif heb fynnu clod na sylw."
Roedd John Gwynedd yn ŵr i'r diweddar Cadi Jones, ac mae'n gadael tri o blant, Osian, Meilir a Heddus, a chwech o wyrion.