Newyddion S4C

Lauren Price yn gobeithio creu hanes yn ei gornest focsio yng Nghaerdydd

ITV Cymru 10/05/2024
Instagram

Mae Cymraes yn gobeithio bod y bocsiwr benywaidd cyntaf o Gymru i ennill teitl byd.

Fe fydd Lauren Price yn herio'r pencampwr Jessica McCaskill, mewn gornest yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn. 

Dyma fydd cystadleuaeth broffesiynol gyntaf Price yng Nghymru. 

Mi fydd yr achlysur hefyd yn gyfle iddi ymgeisio am deitl byd pwysau welter, a hynny ar ôl chwe gornest brofesiynol.

Mae Price wedi dweud wrth ITV Cymru ei bod yn "edrych ymlaen" at yr ornest ddydd Sadwrn, gan ei bod wedi sicrhau cefnogaeth yr hyfforddwr bocsio enwog Rob McCraken.

'Nawr yw fy amser'

“Rwy’n teimlo mai nawr yw fy amser. Mae gen i dîm gwych tu ôl i fi, a rydw i’n credu yn fy hun, dyna'r cyfan sy'n bwysig.

"Rwy'n barod. Rwy'n gyffrous. Fedra’i ddim aros am nos Sadwrn, i baffio o flaen fy nghefnogwyr.

“Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi breuddwydio amdano."

Mae Price eisoes wedi ennill medalau aur ym Mhencampwriaethau Ewrop, Pencampwriaethau'r Byd, Gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd.

Er hyn, mae Price yn cydnabod y bydd McCaskill yn dipyn fwy o her nag unrhyw un y mae hi wedi’i wynebu o’r blaen.

Mae'r bocsiwr Americanaidd yn bencampwr byd mewn dau gategori pwysau, ond mae ‘The Lucky One’ - llysenw Lauren Price - yn hyderus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.